Cyfarfod ar y Cyd rhwng y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gwmnïau Cydweithredol 12.15-1.30pm, 28 Ionawr 2015 Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd |
Cofnodion
1. Croeso i'r cyfarfod ar y cyd - Croesawodd Sandy Mewies AC y sefydliadau sy'n gysylltiedig â mentrau cydweithredol i'r cyfarfod a gwahoddwyd Derek Walker i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect tai cydweithredol yng Nghymru.
2. Y wyboodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Tai Cydweithredol - Rhoddodd Dave Palmer, Nick Bliss a Derek Walker o Ganolfan Cydweithredol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect presennol. Rhoddwyd crynodeb o'r gwaith cymunedol sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd o fewn yr ardaloedd prosiect arloesi, yr adnoddau sydd ar gael, yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, a brwdfrydedd a chefnogaeth swyddogion. Cyfeiriwyd at y ddogfen Bringing Democracy Home.
Cwestiynau a sylwadau
a. Mynegodd Joyce Watson AC ddymuniad i ddysgu mwy am y prosiect a sut y gallai'r model gysylltu â'r cyfleoedd adeiladu a chyflogaeth.
b. Dywedodd Howard Lewis y gallai Cartrefi am Oes yn Llundain gael eu defnyddio o fewn egwyddorion y prosiect tai cydweithredol.
c. Nododd Nick Bliss ei fod wedi'i blesio gan ddull a chynnydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ymweliad diweddar â'r Wyddgrug.
d. Nododd John Puzey y cefnogwyd tai cydweithredol o fewn maniffesto Cartrefi i Gymru Gyfan.
e. Gofynnodd Sandy Mewies a ellid cymhwyso tai cydweithredol i'r ddarpariaeth o dai pobl hŷn, gan gynnwys ExtraCare.
f. Nododd Mark Isherwood fod y Gynghrair Therapi Galwedigaethol hefyd yn arwain galwad ar gyfer integreiddio egwyddorion cartrefi gydol oes wrth ddatblygu tai.
g. Nododd Nick Bliss fod datblygu gwahanol fodelau cydweithredol yn bwysig i gwrdd ag anghenion cymunedau lleol, ac i sicrhau cynwysoldeb cyfranogwyr. Dywedodd hefyd fod cefnogi cwmnïau cydweithredol i ddatblygu capasiti a datblygu sgiliau aelodau yn hanfodol i lwyddiant.
h. Nododd Sioned Hughes fod llawer o aelodau CIC yn cymryd rhan weithredol yn y prosiectau ac y gallai datblygiadau ExtraCare cydweithredol fod yn hyfyw yn y dyfodol.
i. Nododd Auriol Miller ei bod yn bwysig uno'r gwaith o ddatblygu tai â blaenoriaethau iechyd a gweithgarwch.
j. Gofynnwyd i Alex Bird am ddiwygio prydles a dywedodd nad oedd unrhyw bolisi yng Nghymru o ran prynu prydlesi allan ar gyfer opsiynau rhydd-ddaliadol a hunan-reolaeth, gan gynnwys mentrau cydweithredol.
k. Nododd Keith Edwards nad yw'r cynnwys Cartrefi Rhentu a rannwyd hyd yma yn delio â llesddeiliaid.
l. Gofynnodd Sandy Mewies a oedd modd derbyn mwy o wybodaeth am hyn ac i roi hwn ar yr agenda fel eitem trafod ar gyfer cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai yn y dyfodol.
m. Nododd Steve Clarke fod hwn yn fater ar gyfer nifer o grwpiau y mae Tenantiaid Cymru yn gweithio gyda hwy. Maent yn grwpiau a gafodd cyngor gwael yn ystod prosesau trosglwyddo stoc ac erbyn hyn roedd ystod o faterion i fynd i'r afael â hwy.
n. Nododd John Puzey fod gan Shelter Cymru arbenigwyr a all ddarparu gwybodaeth.
o. Nododd Elle McNeil fod Compare the Market wedi gwneud ymchwil ar reoleiddio a hawliau defnyddwyr a llesddeiliaid.
p. Gofynnodd Alicja Zalesinska a oedd unrhyw enghreifftiau o brosiectau tai cydweithredol sy'n gweithio gyda grwpiau lleiafrifol
q. Dywedodd Nick Bliss nad oedd yn gwybod am unrhyw brosiectau o'r fath, ond ei bod yn debygol y byddai rhai yn dod i'r amlwg.
r. Cyfeiriodd Dave Palmer at y grŵp 'Vintage Green' yng Nghaerdydd, sef menter cydweithredol tai i fenywod hŷn.
Camau i'w cymryd:
· Canolfan Gydweithredol Cymru i anfon gwybodaeth am brosiectau tai cydweithredol at Joyce Watson.
· 'Prydleswyr' i fod yn eitem ar agenda cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai yn y dyfodol.
· Elle McNeil i anfon linc i ymchwil Compare the Market at y Grŵp Trawsbleidol ar Dai a Cartrefi i Cymru Gyfan.
3. Cyflwyniad a thrafodaeth ar faniffesto Cartrefi i Cymru Gyfan
Cyflwynodd John Puzey o Shelter Cymru y maniffesto Cartrefi i Cymru Gyfan. Eglurodd bod nifer o aelodau wedi gweithio ar y ddogfen ac wedi ymrwymo iddi ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016. Rhan annatod o'r ddogfen oedd y cysylltiadau rhwng tai a'r frwydr yn erbyn tlodi, hybu iechyd a lles a'r ffaith y dylid ystyried tai i fod yn agwedd allweddol ar seilwaith cenedlaethol. Gofynnodd Cartrefi i Cymru Gyfan i Aelodau'r Cynulliad sy'n rhan o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dai ystyried beth allent ei gefnogi o fewn y maniffesto a chymryd y maniffesto yn ôl i'w pleidiau.
Cwestiynau a sylwadau
a) Awgrymodd Keith Edwards y gallai aelodau unigol o Cartrefi i Cymru Gyfan gyarfod ag aelodau unigol o'r Grŵp Trawsbleidiolar ar Dai i ddatblygu consensws ar y maniffesto.
b) Nododd Sandy Mewies y byddai'n hapus i gyflwyno'r maniffesto i'w phlaid ei hun i gefnogi'r cynnwys a dangos sut y mae tai yn berthnsdol i sawl gweinidogaeth.
c) Nododd Ron Walton ei bod yn bwysig deall sut y mae tai yn cefnogi cymunedau aml-genhedlaeth.
d) Pwysleisiodd Sioned Hughes rôl tai fel seilwaith a phwysigrwydd negeseuon allweddol ynglŷn â chysylltiadau rhwng tai â'r economi a lles.
e) Nododd Sandy Mewies y byddai'n sicrhau bod y maniffesto yn cael ei anfon at Brif Weinidog Cymru a Gweinidogion eraill, a bod hwn yn amser da gan fod yr holl bartïon yn edrych ar fanifestoes gwleidyddol ar hyn o bryd.
f) Nododd Dave Palmer bod Canolfan Gydweithredol Cymru hefyd yn cefnogi maniffesto Cartrefi i Cymru Gyfan.
g) Nododd Jocelle Lovell y byddai'n hoffi gweld mwy o ffocws ar y sector rhentu preifat yn y maniffesto.
h) Awgrymodd Keith Edwards y gallai'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid gael eu gwahodd i ymuno â Cartrefi i Cymru Gyfan.
i) Nododd John Puzey y bydd Cartrefi i Cymru Gyfan yn trafod ymestyn aelodaeth yn y cyfarfod nesaf.
j) Nododd Ceri Cryer bod gwybodaeth am dai a dewis i bobl hŷn yn rhan bwysig o gynnig y sector, ac nid dim ond canolbwyntio ar ymyrryd mewn argyfyngau. Dywedodd fod polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn bwysig o ran mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â unigedd cymdeithasol mewn cymunedau.
Camau gweithredu
· Aelodau'r Cynulliad i gysylltu â chadeirydd Cartrefi i Cymru Gyfan i drefnu cyfarfodydd unigol gyda chynrychiolwyr Cartrefi i Cymru Gyfan yn ôl y gofyn.
· Sandy Mewies, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai, i alw cyfarfod gyda Keith Edwards a Helen Northmore i gwblhau trosglwyddiad ysgrifenyddiaeth a chytuno ar gynnwys, dyddiad a lleoliad cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai.
4. Cloi